2015 Rhif 1519 (Cy. 177)

BWYD, CYMRU

Rheoliadau Gwlad Tarddiad Cigoedd Penodol (Cymru) 2015

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth i orfodi, yng Nghymru, ddarpariaethau penodol yn Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) Rhif 1337/2013 sy’n gosod rheolau ar gyfer cymhwyso Rheoliad (EU) Rhif 1169/2011 Senedd Ewrop a’r Cyngor o ran dangosiad gwlad tarddiad neu darddle cig ffres, cig sydd wedi ei oeri a chig sydd wedi ei rewi o deulu’r mochyn, o ddefaid, o eifr ac o ddodfenod (OJ Rhif L 335, 14.12.13, t 19) (“Rheoliad y Comisiwn”).

Mae rheoliad 3 yn nodi mai pob awdurdod bwyd yn ei ardal yw’r awdurdod cymwys at ddibenion Erthygl 5(1) a (2) o Reoliad y Comisiwn. Mae rheoliad 4 yn gwneud awdurdodau bwyd ac awdurdodau iechyd porthladdoedd yn gyfrifol am orfodi’r Rheoliadau.

Mae rheoliad 5 yn ei gwneud yn ofynnol i weithredwyr busnesau bwyd gadw cofnodion am 12 mis o ddiwedd y flwyddyn galendr y mae pob cofnod yn ymwneud â hi.

Mae rheoliad 6 a’r Atodlen yn cymhwyso rhai darpariaethau yn Neddf Diogelwch Bwyd 1990 (1990 p. 16) gydag addasiadau. Mae hyn yn cynnwys cymhwyso (gydag addasiadau) adran 10(1), sy’n galluogi i hysbysiad gwella gael ei gyflwyno sy’n ei gwneud yn ofynnol i gydymffurfio â darpariaethau penodedig Rheoliad y Comisiwn neu â rheoliad 5. Mae’r darpariaethau, fel y’u cymhwysir, yn ei gwneud yn drosedd i beidio â chydymffurfio â hysbysiad gwella.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar wneud Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth yr Asiantaeth Safonau Bwyd yn Asiantaeth Safonau Bwyd Cymru, 11eg Llawr, Tŷ Southgate, Stryd Wood, Caerdydd, CF10 1EW neu ar wefan yr Asiantaeth yn www.food.gov.uk/wales.

 


2015 Rhif 1519 (Cy. 177)

BWYD, CYMRU

Rheoliadau Gwlad Tarddiad Cigoedd Penodol (Cymru) 2015

Gwnaed                           13 Gorffennaf 2015

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru       16 Gorffennaf 2015

Yn dod i rym                             10 Awst 2015

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 6(4)([1]), 16(1)([2]), 17(1)([3]), 26(1), (2) a (3)([4]), 31(1) a 48(1)([5]) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990([6]), a chan adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 a pharagraff 1A o Atodlen 2 iddi([7]).

Mae Gweinidogion Cymru wedi eu dynodi at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 mewn perthynas â mesurau sy’n ymwneud â bwyd (gan gynnwys diodydd) gan gynnwys cynhyrchu sylfaenol o ran bwyd([8]) ac mewn perthynas â’r polisi amaethyddol cyffredin([9]).

Mae’r Rheoliadau a ganlyn yn gwneud darpariaeth at ddiben a grybwyllir yn adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 ac mae’n ymddangos i Weinidogion Cymru ei bod yn hwylus i unrhyw gyfeiriad at Reoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) Rhif 1337/2013 sy’n gosod rheolau ar gyfer cymhwyso Rheoliad (EU) Rhif 1169/2011 Senedd Ewrop a’r Cyngor o ran dangosiad gwlad tarddiad neu darddle cig ffres, cig sydd wedi ei oeri a chig sydd wedi ei rewi o deulu’r mochyn, o ddefaid, o eifr ac o ddodfenod([10]) gael ei ddehongli fel cyfeiriad at y Rheoliad hwnnw fel y’i diwygir o bryd i’w gilydd.

I’r graddau y mae’r Rheoliadau a ganlyn wedi eu gwneud drwy arfer pwerau o dan Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990, mae Gweinidogion Cymru wedi rhoi sylw i gyngor perthnasol a roddwyd gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd yn unol ag adran 48(4A) o’r Ddeddf honno([11]).

Cafwyd ymgynghoriad fel sy’n ofynnol gan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a’r Cyngor sy’n gosod egwyddorion cyffredinol a gofynion cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd([12]), wrth lunio a gwerthuso’r Rheoliadau a ganlyn.

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.(1)(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gwlad Tarddiad Cigoedd Penodol (Cymru) 2015.

(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 10 Awst 2015 ac maent yn gymwys o ran Cymru.

Dehongli

2.(1)(1) Yn y Rheoliadau hyn—

ystyr “awdurdod bwyd” (“food authority”) yw cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol;

ystyr “y Ddeddf” (the Act) yw Deddf Diogelwch Bwyd 1990;

mae i “gweithredydd y busnes bwyd” yr ystyr a roddir i “food business operator” ym mhwynt 3 o Erthygl 3 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a’r Cyngor;

ystyr “Rheoliad y Comisiwn” (“Commission Regulation”) yw Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) Rhif 1337/2013 sy’n gosod rheolau ar gyfer cymhwyso Rheoliad (EU) Rhif 1169/2011 Senedd Ewrop a’r Cyngor o ran dangosiad gwlad tarddiad neu darddle cig ffres, cig sydd wedi ei oeri a chig sydd wedi ei rewi o deulu’r mochyn, o ddefaid, o eifr ac o ddodfenod;

ystyr “swyddog awdurdodedig” (“authorised officer”) yw person sydd wedi ei awdurdodi gan awdurdod gorfodi (o fewn ystyr y Ddeddf) at ddibenion y Rheoliadau hyn.

(2) Ac eithrio fel y darperir fel arall, mae unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at Erthygl yn gyfeiriad at un o Erthyglau Rheoliad y Comisiwn.

(3) Mae unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at un o Erthyglau Rheoliad y Comisiwn yn gyfeiriad at yr Erthygl honno fel y’i diwygir o bryd i’w gilydd.

Yr awdurdod cymwys

3. Pob awdurdod bwyd yn ei ardal yw’r awdurdod cymwys at ddibenion—

(a)     trydydd is-baragraff Erthygl 5(1) (labelu cig pan nas cwblhawyd y cyfnod magu penodedig mewn unrhyw aelod-wladwriaeth neu drydedd wlad); a

(b)     Erthygl 5(2) (labelu cig pan fo’r “tarddiad” wedi ei ddangos ar y label).

Awdurdodau gorfodi

4.(1)(1) Caiff y Rheoliadau hyn eu gorfodi gan bob awdurdod bwyd o fewn ei ardal a chan bob awdurdod iechyd porthladd o fewn ei ddosbarth.

(2) Yn y rheoliad hwn ystyr “awdurdod iechyd porthladd” (“port health authority”) mewn perthynas ag unrhyw ddosbarth iechyd porthladd a sefydlwyd drwy orchymyn o dan adran 2(3) o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984([13]), yw awdurdod iechyd porthladd ar gyfer y dosbarth hwnnw a sefydlwyd drwy orchymyn o dan adran 2(4) o’r Ddeddf honno.

Cofnodion

5.(1)(1) Rhaid i weithredydd busnes bwyd gadw cofnod o’r wybodaeth o dan y system adnabod a chofrestru sy’n ofynnol gan Erthygl 3 (olrhain).

(2) Rhaid i weithredwr busnes bwyd gadw pob cofnod am gyfnod o 12 mis o ddiwedd y flwyddyn galendr y mae’r cofnod yn ymwneud â hi.

Cymhwyso darpariaethau’r Ddeddf

6.(1)(1) Mae adran 10(1) a (2) o’r Ddeddf (hysbysiadau gwella) yn gymwys gyda’r addasiad (yn achos adran 10(1)) a bennir yn Rhan 1 o’r Atodlen i’r Rheoliadau hyn at ddibenion—

(a)     galluogi i hysbysiad gwella gael ei gyflwyno i berson sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r person gydymffurfio—

                           (i)    ag unrhyw un neu ragor o Erthyglau 3 i 6 ac 8; neu

                         (ii)    â rheoliad 5; a

(b)     ei gwneud yn drosedd i fethu â chydymffurfio â hysbysiad y cyfeirir ato yn is-baragraff (a).

(2) Mae adran 32 o’r Ddeddf (pwerau mynediad)([14]) yn gymwys, gyda’r addasiadau a bennir yn Rhan 2 o’r Atodlen i’r Rheoliadau hyn, at ddibenion galluogi swyddog awdurdodedig—

(a)     i arfer pŵer mynediad i ddarganfod a oes neu a oedd unrhyw un neu ragor o Erthyglau 3 i 6 ac 8 wedi eu torri;

(b)     i arfer pŵer mynediad er mwyn darganfod a oes unrhyw dystiolaeth bod darpariaeth o’r fath wedi ei thorri; ac

(c)     wrth arfer pŵer mynediad o dan ddarpariaethau adran 32 fel y’i cymhwysir gan y paragraff hwn, i arfer y pwerau yn is-adrannau (5) a (6) ynglŷn â chofnodion.

(3) Mae adran 37(1) a (6) o’r Ddeddf (apelau) yn gymwys, gyda’r addasiadau a bennir yn Rhan 3 o’r Atodlen i’r Rheoliadau hyn at ddiben galluogi apêl yn erbyn penderfyniad i gyflwyno hysbysiad y cyfeirir ato ym mharagraff (1)(a).

(4) Mae adran 39 o’r Ddeddf (apelau yn erbyn hysbysiadau gwella) yn gymwys gyda’r addasiadau a bennir yn Rhan 4 o’r Atodlen i’r Rheoliadau hyn at ddiben ymdrin ag apelau yn erbyn penderfyniad i gyflwyno hysbysiad y cyfeirir ato ym mharagraff (1)(a).

(5) Mae darpariaethau’r Ddeddf a bennir yng ngholofn gyntaf y tabl yn Rhan 5 o’r Atodlen i’r Rheoliadau hyn yn gymwys gyda’r addasiadau a bennir yn yr ail golofn o’r tabl hwnnw at ddibenion y Rheoliadau hyn.

 

 

 

 

Vaughan Gething

 

Y Dirprwy Weinidog Iechyd, un o Weinidogion Cymru

13 Gorffennaf 2015

                   YR ATODLEN      Rheoliad 6

Addasu darpariaethau’r Ddeddf

RHAN 1

Addasu adran 10(1)

1. Yn lle adran 10(1) (hysbysiadau gwella) rhodder—

(1) If an authorised officer of an enforcement authority has reasonable grounds for believing that a person is failing to comply with any of Articles 3 to 6 and 8 of Commission Implementing Regulation (EU) No 1337/2013 laying down rules for the application of Regulation (EU) No 1169/2011 of the European Parliament and of the Council as regards the indication of the country of origin or place of provenance for fresh, chilled and frozen meat of swine, sheep, goats and poultry, or regulation 5 of the Country of Origin of Certain Meats (Wales) Regulations 2015, the authorised officer may, by a notice served on that person (in this Act referred to as an “improvement notice”)—

(a)   state the officer’s grounds for believing that the person is failing to comply with the relevant provision;

(b)  specify the matters which constitute the person’s failure so to comply;

(c)   specify the measures which, in the officer’s opinion, the person must take in order to secure compliance; and

(d)  require the person to take those measures, or measures that are at least equivalent to them, within such period as may be specified in the notice.”.

RHAN 2

Addasu adran 32(1)

2. Yn adran 32(1) (pwerau mynediad)—

(a)     ym mharagraff (a), yn lle “this Act, or of regulations or orders made under it” rhodder “any of Articles 3 to 6 or 8 of Commission Implementing Regulation (EU) No 1337/2013 laying down rules for the application of Regulation (EU) No 1169/2011 of the European Parliament and of the Council as regards the indication of the country of origin or place of provenance for fresh, chilled and frozen meat of swine, sheep, goats and poultry”; a

(b)     hepgorer paragraff (c).

RHAN 3

Addasu adran 37(1) a (6)

3.(1)(1) Yn lle adran 37(1) (apelau), rhodder—

(1) Any person who is aggrieved by a decision of an authorised officer of an enforcement authority to serve an improvement notice under section 10(1), as applied and modified by regulation 6(1) of, and Part 1 of the Schedule to, the Country of Origin of Certain Meats (Wales) Regulations 2015, may appeal to a magistrates’ court.”.

(2) Yn adran 37(6) —

(a)     yn lle “(3) or (4)” rhodder “(1)”; a

(b)     hepgorer “or to the sheriff”.

RHAN 4

Addasu adran 39(1) a (3)

4.(1)(1) Yn lle adran 39(1) (apelau yn erbyn hysbysiadau gwella) rhodder—

(1) On an appeal against an improvement notice served under section 10(1), as applied and modified by regulation 6(1) of, and Part 1 of the Schedule to, the Country of Origin of Certain Meats (Wales) Regulations 2015, the magistrates’ court may either cancel or affirm the notice and, if it affirms it, may do so either in its original form or with such modifications as the court may in the circumstances think fit.”.

(2) Yn adran 39(3), hepgorer “for want of prosecution”.

RHAN 5

Addasu darpariaethau eraill y Ddeddf

 

Y ddarpariaeth yn y Ddeddf

Yr addasiadau

Adran 2([15]) (ystyr estynedig “sale” etc.)

Yn is-adran (1), yn lle “this Act” rhodder “the Country of Origin of Certain Meats (Wales) Regulations 2015”.

Yn is-adran (2), yn lle “This Act” rhodder “The Country of Origin of Certain Meats (Wales) Regulations 2015”.

Adran 3 (rhagdybiaethau bod bwyd wedi ei fwriadu i’w fwyta gan bobl)

Yn is-adran (1), yn lle “this Act” rhodder “the Country of Origin of Certain Meats ( Wales) Regulations 2015”.

Adran 20 (troseddau oherwydd bai person arall)

Yn lle “any of the preceding provisions of this Part” rhodder “section 10(2), as applied by regulation 6(1) of the Country of Origin of Certain Meats (Wales) Regulations 2015,”.

Adran 21([16]) (amddiffyniad o ddiwydrwydd dyladwy)

Yn is-adran (1), yn lle “any of the preceding provisions of this Part” rhodder “section 10(2), as applied by regulation 6(1) of the Country of Origin of Certain Meats (Wales) Regulations 2015,”.

Hepgorer is-adrannau (2) i (6).

Adran 29 (caffael samplau)

Ym mharagraff (b)(ii), ar ôl “under section 32 below”, mewnosoder “including under section 32 as applied and modified by regulation 6(2) of, and Part 2 of the Schedule to, the Country of Origin of Certain Meats (Wales) Regulations 2015”.

Adran 30(8) (tystiolaeth tystysgrifau a roddir gan ddadansoddydd neu archwilydd bwyd)

Yn lle “this Act” rhodder “the Country of Origin of Certain Meats (Wales) Regulations 2015”.

Adran 33 (rhwystro etc. swyddogion)

Yn is-adran (1), yn lle “this Act” (ym mhob man lle y mae’n digwydd) rhodder “the Country of Origin of Certain Meats (Wales) Regulations 2015”.

Adran 35(1)([17]) a 2 (cosbi troseddau)

Yn is-adran (1), ar ôl “section 33(1) above”, mewnosoder “, as applied and modified by regulation 6(5) of, and Part 5 of the Schedule to, the Country of Origin of Certain Meats (Wales) Regulations 2015,”.

Ar ôl paragraff (1), mewnosoder—

(1A) A person guilty of an offence under section 10(2), as applied by regulation 6(1) of the Country of Origin of Certain Meats (Wales) Regulations 2015, shall be liable, on summary conviction, to a fine.”.

Yn is-adran (2), yn lle “any other offence under this Act” rhodder “an offence under section 33(2), as applied by regulation 6(5) of, and Part 5 of the Schedule to, the Country of Origin of Certain Meats (Wales) Regulations 2015,”.

Adran 36 (troseddau corff corfforaethol)

Yn is-adran (1), yn lle “this Act” rhodder “section 10(2), as applied by regulation 6(1) of the Country of Origin of Certain Meats (Wales) Regulations 2015,”.

Adran 36A([18]) (troseddau partneriaethau Albanaidd)

Yn lle “this Act” rhodder “section 10(2), as applied by regulation 6(1) of the Country of Origin of Certain Meats (Wales) Regulations 2015,”.

Adran 44 (amddiffyn swyddogion sy’n gweithredu’n ddidwyll)

Yn lle “this Act” (ym mhob man lle y mae’n digwydd) rhodder “the Country of Origin of Certain Meats (Wales) Regulations 2015”.

 



([1])           Diwygiwyd adran 6(4) gan adran 31 o Ddeddf Dadreoleiddio a Chontractio Allan 1994 (p. 40) a pharagraff 6 o Atodlen 9 iddi,  adran 40(1) o Ddeddf Safonau Bwyd 1999 (p.28) (“Deddf 1999”) a pharagraff 10(1) a (3) o Atodlen 5 ac Atodlen 6 iddi  ac O.S. 2002/794.

([2])           Diwygiwyd adran 16(1) gan adran 40(1) o Ddeddf 1999 a pharagraffau 7 ac 8 o Atodlen 5 iddi.

([3])           Diwygiwyd adran 17(1) gan adran 40(1) o Ddeddf 1999, a pharagraffau 8 a 12(a) o Atodlen 5 iddi, ac O.S. 2011/1043.

([4])           Diddymwyd adran 26(3) yn rhannol gan adran 40(4) o Ddeddf 1999 ac Atodlen 6 iddi.

([5])           Diwygiwyd adrannau 31(1) a 48(1) gan adran 40(1) o Ddeddf 1999 a pharagraff 8 o Atodlen 5 iddi.

([6])           1990 p. 16. Trosglwyddwyd swyddogaethau a oedd gynt yn arferadwy gan “the Ministers”, i'r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan O.S. 1999/672 fel y’i darllenir gydag adran 40(3) o  Ddeddf 1999, ac fe’u trosglwyddwyd wedi hynny i Weinidogion Cymru gan adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32) a pharagraff 30 o Atodlen 11 iddi.

([7])           1972 p. 68. Diwygiwyd adran 2(2) gan adran 27(1)(a) o Ddeddf Diwygio Deddfwriaethol a Rheoleiddiol 2006 (p. 51) a Rhan 1 o’r Atodlen i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Diwygio) 2008 (p. 7). Mewnosodwyd paragraff 1A o Atodlen 2 gan adran 28 o Ddeddf Diwygio Deddfwriaethol a Rheoleiddiol 2006, ac fe'i diwygiwyd gan Ran 1 o'r  Atodlen i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Diwygio) 2008 ac O.S. 2007/1388.

([8])           O.S. 2005/1971. Yn rhinwedd adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 a pharagraffau 28 a 30 o Atodlen 11 iddi, mae'r swyddogaethau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru drwy'r dynodiad hwn wedi eu trosglwyddo i Weinidogion Cymru.

([9])           O.S. 2010/2690.

([10])         OJ Rhif L 335, 14.12.13, t 19.

([11])         Mewnosodwyd adran 48(4A) gan adran 40(1) o Ddeddf 1999 a pharagraff 21 o Atodlen 5 iddi.

([12])         OJ Rhif L 31, 1.2.02, t 1, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad (EU) Rhif 652/2014 Senedd Ewrop a'r Cyngor (OJ Rhif L 189, 27.6.14, t 1).

([13])         1984 p. 22.

([14])         Diwygiwyd adran 32(5) a (6) gan adran 70 o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol a'r Heddlu 2001 (p. 16) a pharagraff 18 o Atodlen 2 iddi.

([15])         Diwygiwyd adran 2(1) gan adran 40(1) o Ddeddf 1999, a pharagraff 8 o Atodlen 5 iddi.

([16])         Diwygiwyd adran 21(2) gan O.S. 2004/3279.

([17])         Diwygir adran 35(1) gan adran 280(2) o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 2003 (p.44) a pharagraff 42 o Atodlen 26 iddi, o ddyddiad sydd i'w bennu.

([18])         Mewnosodwyd  adran 36A gan adran 40(1) o Ddeddf 1999 a pharagraff 16 o Atodlen 5 iddi.